25 Yn awr yr oedd dyn yn Jerwsalem o'r enw Simeon; dyn cyfiawn a duwiol oedd hwn, yn disgwyl am ddiddanwch Israel; ac yr oedd yr Ysbryd Glân arno.
26 Yr oedd wedi cael datguddiad gan yr Ysbryd Glân na welai farwolaeth cyn gweld Meseia'r Arglwydd.
27 Daeth i'r deml dan arweiniad yr Ysbryd; a phan ddaeth y rhieni â'r plentyn Iesu i mewn, i wneud ynglŷn ag ef yn unol ag arfer y Gyfraith,
28 cymerodd Simeon ef i'w freichiau a bendithiodd Dduw gan ddweud:
29 “Yn awr yr wyt yn gollwng dy was yn rhydd, O Arglwydd,mewn tangnefedd yn unol â'th air;
30 oherwydd y mae fy llygaid wedi gweld dy iachawdwriaeth,
31 a ddarperaist yng ngŵydd yr holl bobloedd: