32 goleuni i fod yn ddatguddiad i'r Cenhedloeddac yn ogoniant i'th bobl Israel.”
33 Yr oedd ei dad a'i fam yn rhyfeddu at y pethau oedd yn cael eu dweud amdano.
34 Yna bendithiodd Simeon hwy, a dywedodd wrth Fair ei fam, “Wele, gosodwyd hwn er cwymp a chyfodiad llawer yn Israel, ac i fod yn arwydd a wrthwynebir;
35 a thithau, trywenir dy enaid di gan gleddyf; felly y datguddir meddyliau calonnau lawer.”
36 Yr oedd proffwydes hefyd, Anna merch Phanuel o lwyth Aser. Yr oedd hon yn oedrannus iawn, wedi byw saith mlynedd gyda'i gŵr ar ôl priodi,
37 ac wedi parhau'n weddw nes ei bod yn awr yn bedair a phedwar ugain oed. Ni byddai byth yn ymadael â'r deml, ond yn addoli gan ymprydio a gweddïo ddydd a nos.
38 A'r awr honno safodd hi gerllaw a moli Duw, a llefaru am y plentyn wrth bawb oedd yn disgwyl rhyddhad Jerwsalem.