42 Pan oedd ef yn ddeuddeng mlwydd oed, aethant i fyny yn unol â'r arfer ar yr ŵyl,
43 a chadw ei dyddiau yn gyflawn. Ond pan oeddent yn dychwelyd, arhosodd y bachgen Iesu yn Jerwsalem yn ddiarwybod i'w rieni.
44 Gan dybio ei fod gyda'u cyd-deithwyr, gwnaethant daith diwrnod cyn dechrau chwilio amdano ymhlith eu perthnasau a'u cydnabod.
45 Wedi methu cael hyd iddo, dychwelsant i Jerwsalem gan chwilio amdano.
46 Ymhen tridiau daethant o hyd iddo yn y deml, yn eistedd yng nghanol yr athrawon, yn gwrando arnynt ac yn eu holi;
47 ac yr oedd pawb a'i clywodd yn rhyfeddu mor ddeallus oedd ei atebion.
48 Pan welodd ei rieni ef, fe'u syfrdanwyd, ac meddai ei fam wrtho, “Fy mhlentyn, pam y gwnaethost hyn inni? Dyma dy dad a minnau yn llawn pryder wedi bod yn chwilio amdanat.”