1 Yr oedd gŵyl y Bara Croyw, y Pasg fel y'i gelwir, yn agosáu.
2 Yr oedd y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion yn ceisio modd i'w ladd, oherwydd yr oedd arnynt ofn y bobl.
3 Ac aeth Satan i mewn i Jwdas, a elwid Iscariot, hwnnw oedd yn un o'r Deuddeg.
4 Aeth ef a thrafod gyda'r prif offeiriaid a swyddogion gwarchodlu'r deml sut i fradychu Iesu iddynt.