37 Rwy'n dweud wrthych fod yn rhaid cyflawni ynof fi yr Ysgrythur sy'n dweud: ‘A chyfrifwyd ef gyda throseddwyr.’ Oherwydd y mae'r hyn a ragddywedwyd amdanaf fi yn dod i ben.”
38 “Arglwydd,” atebasant hwy, “dyma ddau gleddyf.” Meddai yntau wrthynt, “Dyna ddigon.”
39 Yna aeth allan, a cherdded yn ôl ei arfer i Fynydd yr Olewydd, a'i ddisgyblion hefyd yn ei ddilyn.
40 Pan gyrhaeddodd y fan, meddai wrthynt, “Gweddïwch na ddewch i gael eich profi.”
41 Yna ymneilltuodd Iesu oddi wrthynt tuag ergyd carreg, a chan benlinio dechreuodd weddïo
42 gan ddweud, “O Dad, os wyt ti'n fodlon, cymer y cwpan hwn oddi wrthyf. Ond gwneler dy ewyllys di, nid fy ewyllys i.”
43 Ac ymddangosodd angel o'r nef iddo, a'i gyfnerthu.