46 Meddai wrthynt, “Pam yr ydych yn cysgu? Codwch, a gweddïwch na ddewch i gael eich profi.”
47 Tra oedd yn dal i siarad, fe ymddangosodd tyrfa, a Jwdas, fel y'i gelwid, un o'r Deuddeg, ar ei blaen. Nesaodd ef at Iesu i'w gusanu.
48 Meddai Iesu wrtho, “Jwdas, ai â chusan yr wyt yn bradychu Mab y Dyn?”
49 Pan welodd ei ddilynwyr beth oedd ar ddigwydd, meddent, “Arglwydd, a gawn ni daro â'n cleddyfau?”
50 Trawodd un ohonynt was yr archoffeiriad a thorri ei glust dde i ffwrdd.
51 Atebodd Iesu, “Peidiwch! Dyna ddigon!” Cyffyrddodd â'r glust a'i hadfer.
52 Yna meddai Iesu wrth y rhai oedd wedi dod yn ei erbyn, y prif offeiriaid a swyddogion gwarchodlu'r deml a'r henuriaid, “Ai fel at leidr, â chleddyfau a phastynau, y daethoch allan?