48 Meddai Iesu wrtho, “Jwdas, ai â chusan yr wyt yn bradychu Mab y Dyn?”
49 Pan welodd ei ddilynwyr beth oedd ar ddigwydd, meddent, “Arglwydd, a gawn ni daro â'n cleddyfau?”
50 Trawodd un ohonynt was yr archoffeiriad a thorri ei glust dde i ffwrdd.
51 Atebodd Iesu, “Peidiwch! Dyna ddigon!” Cyffyrddodd â'r glust a'i hadfer.
52 Yna meddai Iesu wrth y rhai oedd wedi dod yn ei erbyn, y prif offeiriaid a swyddogion gwarchodlu'r deml a'r henuriaid, “Ai fel at leidr, â chleddyfau a phastynau, y daethoch allan?
53 Er fy mod gyda chwi beunydd yn y deml, ni wnaethoch ddim i'm dal. Ond eich awr chwi yw hon, a'r tywyllwch biau'r awdurdod.”
54 Daliasant ef, a mynd ag ef ymaith i mewn i dŷ'r archoffeiriad. Yr oedd Pedr yn canlyn o hirbell.