51 Atebodd Iesu, “Peidiwch! Dyna ddigon!” Cyffyrddodd â'r glust a'i hadfer.
52 Yna meddai Iesu wrth y rhai oedd wedi dod yn ei erbyn, y prif offeiriaid a swyddogion gwarchodlu'r deml a'r henuriaid, “Ai fel at leidr, â chleddyfau a phastynau, y daethoch allan?
53 Er fy mod gyda chwi beunydd yn y deml, ni wnaethoch ddim i'm dal. Ond eich awr chwi yw hon, a'r tywyllwch biau'r awdurdod.”
54 Daliasant ef, a mynd ag ef ymaith i mewn i dŷ'r archoffeiriad. Yr oedd Pedr yn canlyn o hirbell.
55 Cyneuodd rhai dân yng nghanol y cyntedd, ac eistedd gyda'i gilydd. Eisteddodd Pedr yn eu plith.
56 Gwelodd morwyn ef yn eistedd wrth y tân, ac wedi syllu arno meddai, “Yr oedd hwn hefyd gydag ef.”
57 Ond gwadodd ef a dweud, “Nid wyf fi'n ei adnabod, ferch.”