60 Meddai Pedr, “Ddyn, nid wyf yn gwybod am beth yr wyt ti'n sôn.” Ac ar unwaith, tra oedd yn dal i siarad, canodd y ceiliog.
61 Troes yr Arglwydd ac edrych ar Pedr, a chofiodd ef air yr Arglwydd wrtho, “Cyn i'r ceiliog ganu heddiw, fe'm gwedi i deirgwaith.”
62 Aeth allan ac wylo'n chwerw.
63 Yr oedd gwarcheidwaid Iesu yn ei watwar a'i guro.
64 Rhoesant orchudd amdano, a dechrau ei holi gan ddweud, “Proffwyda! Pwy a'th drawodd?”
65 A dywedasant lawer o bethau cableddus eraill wrtho.
66 Pan ddaeth yn ddydd, cyfarfu Cyngor henuriaid y bobl, y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion. Daethant ag ef gerbron eu brawdlys