8 Anfonodd ef Pedr ac Ioan gan ddweud, “Ewch a pharatowch inni gael bwyta gwledd y Pasg.”
9 Meddent hwy wrtho, “Ble yr wyt ti am inni ei pharatoi?”
10 Atebodd hwy, “Wedi i chwi fynd i mewn i'r ddinas fe ddaw dyn i'ch cyfarfod, yn cario stenaid o ddŵr. Dilynwch ef i'r tŷ yr â i mewn iddo,
11 a dywedwch wrth ŵr y tŷ, ‘Y mae'r Athro yn gofyn i ti, “Ble mae f'ystafell, lle yr wyf i fwyta gwledd y Pasg gyda'm disgyblion?” ’
12 Ac fe ddengys ef i chwi oruwchystafell fawr wedi ei threfnu; yno paratowch.”
13 Aethant ymaith, a chael fel yr oedd ef wedi dweud wrthynt, a pharatoesant wledd y Pasg.
14 Pan ddaeth yr awr, cymerodd ei le wrth y bwrdd, a'r apostolion gydag ef.