1 Ar y dydd cyntaf o'r wythnos, ar doriad gwawr, daethant at y bedd gan ddwyn y peraroglau yr oeddent wedi eu paratoi.
2 Cawsant y maen wedi ei dreiglo i ffwrdd oddi wrth y bedd,
3 ond pan aethant i mewn ni chawsant gorff yr Arglwydd Iesu.
4 Yna, a hwythau mewn penbleth ynglŷn â hyn, dyma ddau ddyn yn ymddangos iddynt mewn gwisgoedd llachar.