11 Ond i'w tyb hwy, lol oedd yr hanesion hyn, a gwrthodasant gredu'r gwragedd.
12 Ond cododd Pedr a rhedeg at y bedd; plygodd i edrych, ac ni welodd ddim ond y llieiniau. Ac aeth ymaith, gan ryfeddu wrtho'i hun at yr hyn oedd wedi digwydd.
13 Yn awr, yr un dydd, yr oedd dau ohonynt ar eu ffordd i bentref, oddeutu un cilomedr ar ddeg o Jerwsalem, o'r enw Emaus.
14 Yr oeddent yn ymddiddan â'i gilydd am yr holl ddigwyddiadau hyn.
15 Yn ystod yr ymddiddan a'r trafod, nesaodd Iesu ei hun atynt a dechrau cerdded gyda hwy,
16 ond rhwystrwyd eu llygaid rhag ei adnabod ef.
17 Meddai wrthynt, “Beth yw'r sylwadau hyn yr ydych yn eu cyfnewid wrth gerdded?” Safasant hwy, a'u digalondid yn eu hwynebau.