13 Yn awr, yr un dydd, yr oedd dau ohonynt ar eu ffordd i bentref, oddeutu un cilomedr ar ddeg o Jerwsalem, o'r enw Emaus.
14 Yr oeddent yn ymddiddan â'i gilydd am yr holl ddigwyddiadau hyn.
15 Yn ystod yr ymddiddan a'r trafod, nesaodd Iesu ei hun atynt a dechrau cerdded gyda hwy,
16 ond rhwystrwyd eu llygaid rhag ei adnabod ef.
17 Meddai wrthynt, “Beth yw'r sylwadau hyn yr ydych yn eu cyfnewid wrth gerdded?” Safasant hwy, a'u digalondid yn eu hwynebau.
18 Atebodd yr un o'r enw Cleopas, “Rhaid mai ti yw'r unig ymwelydd â Jerwsalem nad yw'n gwybod am y pethau sydd wedi digwydd yno y dyddiau diwethaf hyn.”
19 “Pa bethau?” meddai wrthynt. Atebasant hwythau, “Y pethau sydd wedi digwydd i Iesu o Nasareth, dyn oedd yn broffwyd nerthol ei weithredoedd a'i eiriau yng ngŵydd Duw a'r holl bobl.