4 Yna, a hwythau mewn penbleth ynglŷn â hyn, dyma ddau ddyn yn ymddangos iddynt mewn gwisgoedd llachar.
5 Daeth ofn arnynt, a phlygasant eu hwynebau tua'r ddaear. Meddai'r dynion wrthynt, “Pam yr ydych yn ceisio ymhlith y meirw yr hwn sy'n fyw?
6 Nid yw ef yma; y mae wedi ei gyfodi. Cofiwch fel y llefarodd wrthych tra oedd eto yng Ngalilea,
7 gan ddweud ei bod yn rhaid i Fab y Dyn gael ei draddodi i ddwylo pechaduriaid, a'i groeshoelio, a'r trydydd dydd atgyfodi.”
8 A daeth ei eiriau ef i'w cof.
9 Dychwelsant o'r bedd, ac adrodd yr holl bethau hyn wrth yr un ar ddeg ac wrth y lleill i gyd.
10 Mair Magdalen a Joanna a Mair mam Iago oedd y gwragedd hyn; a'r un pethau a ddywedodd y gwragedd eraill hefyd, oedd gyda hwy, wrth yr apostolion.