49 Ac yn awr yr wyf fi'n anfon arnoch yr hyn a addawodd fy Nhad; chwithau, arhoswch yn y ddinas nes eich gwisgo chwi oddi uchod â nerth.”
50 Aeth â hwy allan i gyffiniau Bethania. Yna cododd ei ddwylo a'u bendithio.
51 Wrth iddo'u bendithio, fe ymadawodd â hwy ac fe'i dygwyd i fyny i'r nef.
52 Wedi iddynt ei addoli ar eu gliniau, dychwelsant yn llawen iawn i Jerwsalem.
53 Ac yr oeddent yn y deml yn ddi-baid, yn bendithio Duw.