1 Yn y bymthegfed flwyddyn o deyrnasiad Tiberius Cesar, pan oedd Pontius Pilat yn llywodraethu ar Jwdea, a Herod yn dywysog Galilea, a phan oedd Philip ei frawd yn dywysog tiriogaeth Itwrea a Trachonitis, a Lysanias yn dywysog Abilene,
2 ac yn amser archoffeiriadaeth Annas a Caiaffas, daeth gair Duw at Ioan fab Sachareias yn yr anialwch.
3 Aeth ef drwy'r holl wlad oddi amgylch yr Iorddonen gan gyhoeddi bedydd edifeirwch yn foddion maddeuant pechodau,
4 fel y mae'n ysgrifenedig yn llyfr geiriau'r proffwyd Eseia:“Llais un yn galw yn yr anialwch,‘Paratowch ffordd yr Arglwydd,unionwch y llwybrau iddo.
5 Caiff pob ceulan ei llenwi,a phob mynydd a bryn ei lefelu;gwneir y llwybrau troellog yn union,a'r ffyrdd garw yn llyfn;
6 a bydd y ddynolryw oll yn gweld iachawdwriaeth Duw.’ ”
7 Dywedai wrth y tyrfaoedd oedd yn dod allan i'w bedyddio ganddo: “Chwi epil gwiberod, pwy a'ch rhybuddiodd i ffoi rhag y digofaint sydd i ddod?