14 Byddai dynion ar wasanaeth milwrol hefyd yn gofyn iddo, “Beth a wnawn ninnau?” Meddai wrthynt, “Peidiwch ag ysbeilio neb trwy drais neu gamgyhuddiad, ond byddwch fodlon ar eich cyflog.”
15 Gan fod y bobl yn disgwyl, a phawb yn ystyried yn ei galon tybed ai Ioan oedd y Meseia,
16 dywedodd ef wrth bawb: “Yr wyf fi yn eich bedyddio â dŵr; ond y mae un cryfach na mi yn dod. Nid wyf fi'n deilwng i ddatod carrai ei sandalau ef. Bydd ef yn eich bedyddio â'r Ysbryd Glân ac â thân.
17 Y mae ei wyntyll yn barod yn ei law, i nithio'n lân yr hyn a ddyrnwyd, ac i gasglu'r grawn i'w ysgubor. Ond am yr us, bydd yn llosgi hwnnw â thân anniffoddadwy.”
18 Fel hyn, a chyda llawer anogaeth arall hefyd, yr oedd yn cyhoeddi'r newydd da i'r bobl.
19 Ond gan ei fod yn ceryddu'r Tywysog Herod ynglŷn â Herodias, gwraig ei frawd, ac ynglŷn â'i holl weithredoedd drygionus,
20 ychwanegodd Herod y drygioni hwn at y cwbl, sef cloi Ioan yng ngharchar.