18 Fel hyn, a chyda llawer anogaeth arall hefyd, yr oedd yn cyhoeddi'r newydd da i'r bobl.
19 Ond gan ei fod yn ceryddu'r Tywysog Herod ynglŷn â Herodias, gwraig ei frawd, ac ynglŷn â'i holl weithredoedd drygionus,
20 ychwanegodd Herod y drygioni hwn at y cwbl, sef cloi Ioan yng ngharchar.
21 Pan oedd yr holl bobl yn cael eu bedyddio, yr oedd Iesu, ar ôl ei fedydd ef, yn gweddïo. Agorwyd y nef,
22 a disgynnodd yr Ysbryd Glân arno mewn ffurf gorfforol fel colomen; a daeth llais o'r nef: “Ti yw fy Mab, yr Anwylyd; ynot ti yr wyf yn ymhyfrydu.”
23 Tua deng mlwydd ar hugain oed oedd Iesu ar ddechrau ei weinidogaeth. Yr oedd yn fab, yn ôl y dybiaeth gyffredin, i Joseff fab Eli,
24 fab Mathat, fab Lefi, fab Melchi, fab Jannai, fab Joseff,