6 a bydd y ddynolryw oll yn gweld iachawdwriaeth Duw.’ ”
7 Dywedai wrth y tyrfaoedd oedd yn dod allan i'w bedyddio ganddo: “Chwi epil gwiberod, pwy a'ch rhybuddiodd i ffoi rhag y digofaint sydd i ddod?
8 Dygwch ffrwythau gan hynny a fydd yn deilwng o'ch edifeirwch. Peidiwch â dechrau dweud wrthych eich hunain, ‘Y mae gennym Abraham yn dad’, oherwydd rwy'n dweud wrthych y gall Duw godi plant i Abraham o'r cerrig hyn.
9 Ac y mae'r fwyell eisoes wrth wraidd y coed; felly, y mae pob coeden nad yw'n dwyn ffrwyth da yn cael ei thorri i lawr a'i bwrw i'r tân.”
10 Gofynnai'r tyrfaoedd iddo, “Beth a wnawn ni felly?”
11 Atebai yntau, “Rhaid i'r sawl sydd ganddo ddau grys eu rhannu ag unrhyw un sydd heb grys, a rhaid i'r sawl sydd ganddo fwyd wneud yr un peth.”
12 Daeth casglwyr trethi hefyd i'w bedyddio, ac meddent wrtho, “Athro, beth a wnawn ni?”