1 Dychwelodd Iesu, yn llawn o'r Ysbryd Glân, o'r Iorddonen, ac arweiniwyd ef gan yr Ysbryd yn yr anialwch
2 am ddeugain diwrnod, a'r diafol yn ei demtio. Ni fwytaodd ddim yn ystod y dyddiau hynny, ac ar eu diwedd daeth arno eisiau bwyd.
3 Meddai'r diafol wrtho, “Os Mab Duw wyt ti, dywed wrth y garreg hon am droi'n fara.”
4 Atebodd Iesu ef, “Y mae'n ysgrifenedig: ‘Nid ar fara yn unig y bydd rhywun fyw.’ ”