10 oherwydd y mae'n ysgrifenedig:“ ‘Rhydd orchymyn i'w angylion amdanat,i'th warchod di rhag pob perygl’,
11 “a hefyd:“ ‘Byddant yn dy godi ar eu dwylorhag iti daro dy droed yn erbyn carreg.’ ”
12 Yna atebodd Iesu ef, “Y mae'r Ysgrythur yn dweud: ‘Paid â gosod yr Arglwydd dy Dduw ar ei brawf.’ ”
13 Ac ar ôl iddo ei demtio ym mhob modd, ymadawodd y diafol ag ef, gan aros ei gyfle.
14 Dychwelodd Iesu yn nerth yr Ysbryd i Galilea. Aeth y sôn amdano ar hyd a lled y gymdogaeth.
15 Yr oedd yn dysgu yn eu synagogau ac yn cael clod gan bawb.
16 Daeth i Nasareth, lle yr oedd wedi ei fagu. Yn ôl ei arfer aeth i'r synagog ar y dydd Saboth, a chododd i ddarllen.