15 Yr oedd yn dysgu yn eu synagogau ac yn cael clod gan bawb.
16 Daeth i Nasareth, lle yr oedd wedi ei fagu. Yn ôl ei arfer aeth i'r synagog ar y dydd Saboth, a chododd i ddarllen.
17 Rhoddwyd iddo lyfr y proffwyd Eseia, ac agorodd y sgrôl a chael y man lle'r oedd yn ysgrifenedig:
18 “Y mae Ysbryd yr Arglwydd arnaf,oherwydd iddo f'eneinioi bregethu'r newydd da i dlodion.Y mae wedi f'anfon i gyhoeddi rhyddhad i garcharorion,ac adferiad golwg i ddeillion,i beri i'r gorthrymedig gerdded yn rhydd,
19 i gyhoeddi blwyddyn ffafr yr Arglwydd.”
20 Wedi cau'r sgrôl a'i rhoi'n ôl i'r swyddog, fe eisteddodd; ac yr oedd llygaid pawb yn y synagog yn syllu arno.
21 A'i eiriau cyntaf wrthynt oedd: “Heddiw yn eich clyw chwi y mae'r Ysgrythur hon wedi ei chyflawni.”