19 i gyhoeddi blwyddyn ffafr yr Arglwydd.”
20 Wedi cau'r sgrôl a'i rhoi'n ôl i'r swyddog, fe eisteddodd; ac yr oedd llygaid pawb yn y synagog yn syllu arno.
21 A'i eiriau cyntaf wrthynt oedd: “Heddiw yn eich clyw chwi y mae'r Ysgrythur hon wedi ei chyflawni.”
22 Yr oedd pawb yn ei gymeradwyo ac yn rhyfeddu at y geiriau grasusol oedd yn dod o'i enau ef, gan ddweud, “Onid mab Joseff yw hwn?”
23 Ac meddai wrthynt, “Diau yr adroddwch wrthyf y ddihareb, ‘Feddyg, iachâ dy hun’, a dweud, ‘Yr holl bethau y clywsom iddynt ddigwydd yng Nghapernaum, gwna hwy yma hefyd ym mro dy febyd.’ ”
24 Ond meddai, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych nad oes dim croeso i'r un proffwyd ym mro ei febyd.
25 Ar fy ngwir rwy'n dweud wrthych, yr oedd llawer o wragedd gweddw yn Israel yn nyddiau Elias pan gaewyd y ffurfafen am dair blynedd a chwe mis, ac y bu newyn mawr ar yr holl wlad.