2 am ddeugain diwrnod, a'r diafol yn ei demtio. Ni fwytaodd ddim yn ystod y dyddiau hynny, ac ar eu diwedd daeth arno eisiau bwyd.
3 Meddai'r diafol wrtho, “Os Mab Duw wyt ti, dywed wrth y garreg hon am droi'n fara.”
4 Atebodd Iesu ef, “Y mae'n ysgrifenedig: ‘Nid ar fara yn unig y bydd rhywun fyw.’ ”
5 Yna aeth y diafol ag ef i fyny a dangos iddo ar amrantiad holl deyrnasoedd y byd,
6 a dywedodd wrtho, “I ti y rhof yr holl awdurdod ar y rhain a'u gogoniant hwy; oherwydd i mi y mae wedi ei draddodi, ac yr wyf yn ei roi i bwy bynnag a fynnaf.
7 Felly, os addoli di fi, dy eiddo di fydd y cyfan.”
8 Atebodd Iesu ef, “Y mae'n ysgrifenedig:“ ‘Yr Arglwydd dy Dduw a addoli,ac ef yn unig a wasanaethi.’ ”