29 codasant, a bwriasant ef allan o'r dref a mynd ag ef hyd at ael y bryn yr oedd eu tref wedi ei hadeiladu arno, i'w luchio o'r clogwyn.
30 Ond aeth ef drwy eu canol hwy, ac ymaith ar ei daith.
31 Aeth i lawr i Gapernaum, tref yng Ngalilea, a bu'n dysgu'r bobl ar y Saboth.
32 Yr oeddent yn synnu at yr hyn yr oedd yn ei ddysgu, oherwydd yr oedd ei air yn llawn awdurdod.
33 Yn y synagog yr oedd dyn a chanddo ysbryd cythraul aflan. Gwaeddodd hwnnw â llais uchel,
34 “Och, beth sydd a fynni di â ni, Iesu o Nasareth? A wyt ti wedi dod i'n difetha ni? Mi wn pwy wyt ti—Sanct Duw.”
35 Ceryddodd Iesu ef â'r geiriau, “Taw, a dos allan ohono.” Lluchiodd y cythraul y dyn i'w canol ac aeth allan ohono heb niweidio dim arno.