8 Atebodd Iesu ef, “Y mae'n ysgrifenedig:“ ‘Yr Arglwydd dy Dduw a addoli,ac ef yn unig a wasanaethi.’ ”
9 Ond aeth y diafol ag ef i Jerwsalem, a'i osod ar dŵr uchaf y deml, a dweud wrtho, “Os Mab Duw wyt ti, bwrw dy hun i lawr oddi yma;
10 oherwydd y mae'n ysgrifenedig:“ ‘Rhydd orchymyn i'w angylion amdanat,i'th warchod di rhag pob perygl’,
11 “a hefyd:“ ‘Byddant yn dy godi ar eu dwylorhag iti daro dy droed yn erbyn carreg.’ ”
12 Yna atebodd Iesu ef, “Y mae'r Ysgrythur yn dweud: ‘Paid â gosod yr Arglwydd dy Dduw ar ei brawf.’ ”
13 Ac ar ôl iddo ei demtio ym mhob modd, ymadawodd y diafol ag ef, gan aros ei gyfle.
14 Dychwelodd Iesu yn nerth yr Ysbryd i Galilea. Aeth y sôn amdano ar hyd a lled y gymdogaeth.