5 Atebodd Simon, “Meistr, drwy gydol y nos buom yn llafurio heb ddal dim, ond ar dy air di mi ollyngaf y rhwydau.”
6 Gwnaethant hyn, a daliasant nifer enfawr o bysgod, nes bod eu rhwydau bron â rhwygo.
7 Amneidiasant ar eu partneriaid yn y cwch arall i ddod i'w cynorthwyo. Daethant hwy, a llwythasant y ddau gwch nes eu bod ar suddo.
8 Pan welodd Simon Pedr hyn syrthiodd wrth liniau Iesu gan ddweud, “Dos ymaith oddi wrthyf, oherwydd dyn pechadurus wyf fi, Arglwydd.”
9 Yr oedd ef, a phawb oedd gydag ef, wedi eu syfrdanu o weld y llwyth pysgod yr oeddent wedi eu dal;
10 a'r un modd Iago ac Ioan, meibion Sebedeus, a oedd yn bartneriaid i Simon. Ac meddai Iesu wrth Simon, “Paid ag ofni; o hyn allan dal dynion y byddi di.”
11 Yna daethant â'r cychod yn ôl i'r lan, a gadael popeth, a'i ganlyn ef.