1 Un Saboth yr oedd yn mynd trwy gaeau ŷd, ac yr oedd ei ddisgyblion yn tynnu tywysennau ac yn eu bwyta, gan eu rhwbio yn eu dwylo.
2 Ond dywedodd rhai o'r Phariseaid, “Pam yr ydych yn gwneud peth sy'n groes i'r Gyfraith ar y Saboth?”
3 Atebodd Iesu hwy, “Onid ydych wedi darllen am y peth hwnnw a wnaeth Dafydd pan oedd eisiau bwyd arno ef a'r rhai oedd gydag ef?
4 Sut yr aeth i mewn i dŷ Dduw a chymryd y torthau cysegredig a'u bwyta a'u rhoi i'r rhai oedd gydag ef, torthau nad yw'n gyfreithlon i neb eu bwyta ond yr offeiriaid yn unig?”
5 Ac meddai wrthynt, “Y mae Mab y Dyn yn arglwydd ar y Saboth.”
6 Ar Saboth arall aeth i mewn i'r synagog a dysgu. Yr oedd yno ddyn â'i law dde yn ddiffrwyth.
7 Yr oedd yr ysgrifenyddion a'r Phariseaid â'u llygaid arno i weld a fyddai'n iacháu ar y Saboth, er mwyn cael hyd i gyhuddiad yn ei erbyn.