10 Yna edrychodd o gwmpas arnynt oll a dweud wrth y dyn, “Estyn dy law.” Estynnodd yntau hi, a gwnaed ei law yn iach.
11 Ond llanwyd hwy â gorffwylledd, a dechreusant drafod â'i gilydd beth i'w wneud i Iesu.
12 Un o'r dyddiau hynny aeth allan i'r mynydd i weddïo, a bu ar hyd y nos yn gweddïo ar Dduw.
13 Pan ddaeth hi'n ddydd galwodd ei ddisgyblion ato. Dewisodd o'u plith ddeuddeg, a rhoi'r enw apostolion iddynt:
14 Simon, a enwodd hefyd yn Pedr; Andreas ei frawd; Iago, Ioan, Philip a Bartholomeus;
15 Mathew, Thomas, Iago fab Alffeus, a Simon, a elwid y Selot;
16 Jwdas fab Iago, a Jwdas Iscariot, a droes yn fradwr.