12 Un o'r dyddiau hynny aeth allan i'r mynydd i weddïo, a bu ar hyd y nos yn gweddïo ar Dduw.
13 Pan ddaeth hi'n ddydd galwodd ei ddisgyblion ato. Dewisodd o'u plith ddeuddeg, a rhoi'r enw apostolion iddynt:
14 Simon, a enwodd hefyd yn Pedr; Andreas ei frawd; Iago, Ioan, Philip a Bartholomeus;
15 Mathew, Thomas, Iago fab Alffeus, a Simon, a elwid y Selot;
16 Jwdas fab Iago, a Jwdas Iscariot, a droes yn fradwr.
17 Aeth i lawr gyda hwy a sefyll ar dir gwastad, gyda thyrfa fawr o'i ddisgyblion, a llu niferus o bobl o Jwdea gyfan a Jerwsalem ac o arfordir Tyrus a Sidon, a oedd wedi dod i wrando arno ac i'w hiacháu o'u clefydau;
18 yr oedd y rhai a flinid gan ysbrydion aflan hefyd yn cael eu gwella.