1 Wedi iddo orffen llefaru'r holl eiriau hyn wrth y bobl, aeth i mewn i Gapernaum.
2 Yr oedd canwriad ac iddo was, gwerthfawr yn ei olwg, a oedd yn glaf ac ar fin marw.
3 Pan glywodd y canwriad am Iesu anfonodd ato henuriaid o Iddewon, i ofyn iddo ddod ac achub bywyd ei was.
4 Daethant hwy at Iesu ac ymbil yn daer arno: “Y mae'n haeddu iti wneud hyn drosto,
5 oherwydd y mae'n caru ein cenedl, ac ef a adeiladodd ein synagog i ni.”