17 Ac aeth yr hanes hwn amdano drwy Jwdea gyfan a'r holl gymdogaeth.
18 Rhoes disgyblion Ioan adroddiad iddo ynglŷn â hyn oll.
19 Galwodd yntau ddau o'i ddisgyblion ato a'u hanfon at yr Arglwydd, gan ofyn, “Ai ti yw'r hwn sydd i ddod, ai am rywun arall yr ydym i ddisgwyl?”
20 Daeth y ddau ato a dweud, “Anfonodd Ioan Fedyddiwr ni atat, gan ofyn, ‘Ai ti yw'r hwn sydd i ddod, ai am rywun arall yr ydym i ddisgwyl?’ ”
21 Y pryd hwnnw iachaodd ef lawer o afael afiechydon a phlâu ac ysbrydion drwg, a rhoes eu golwg i lawer o ddeillion.
22 Ac atebodd ef hwy, “Ewch a dywedwch wrth Ioan yr hyn yr ydych wedi ei weld ac wedi ei glywed. Y mae'r deillion yn cael eu golwg yn ôl, y cloffion yn cerdded, y gwahangleifion yn cael eu glanhau a'r byddariaid yn clywed, y meirw yn codi, y tlodion yn cael clywed y newydd da.
23 Gwyn ei fyd y sawl na ddaw cwymp iddo o'm hachos i.”