22 Ac atebodd ef hwy, “Ewch a dywedwch wrth Ioan yr hyn yr ydych wedi ei weld ac wedi ei glywed. Y mae'r deillion yn cael eu golwg yn ôl, y cloffion yn cerdded, y gwahangleifion yn cael eu glanhau a'r byddariaid yn clywed, y meirw yn codi, y tlodion yn cael clywed y newydd da.
23 Gwyn ei fyd y sawl na ddaw cwymp iddo o'm hachos i.”
24 Wedi i negesyddion Ioan ymadael, dechreuodd Iesu sôn am Ioan wrth y tyrfaoedd. “Beth yr aethoch allan i'r anialwch i edrych arno? Ai brwynen yn siglo yn y gwynt?
25 Beth yr aethoch allan i'w weld? Ai rhywun wedi ei wisgo mewn dillad esmwyth? Ym mhlasau brenhinoedd y mae gweld dynion moethus mewn gwisgoedd ysblennydd.
26 Beth yr aethoch allan i'w weld? Ai proffwyd? Ie, meddaf wrthych, a mwy na phroffwyd.
27 Dyma'r un y mae'n ysgrifenedig amdano:“ ‘Wele fi'n anfon fy nghennad o'th flaen,i baratoi'r ffordd ar dy gyfer.’
28 “Rwy'n dweud wrthych, nid oes ymhlith meibion gwragedd neb mwy na Ioan; ac eto y mae'r lleiaf yn nheyrnas Dduw yn fwy nag ef.”