27 Dyma'r un y mae'n ysgrifenedig amdano:“ ‘Wele fi'n anfon fy nghennad o'th flaen,i baratoi'r ffordd ar dy gyfer.’
28 “Rwy'n dweud wrthych, nid oes ymhlith meibion gwragedd neb mwy na Ioan; ac eto y mae'r lleiaf yn nheyrnas Dduw yn fwy nag ef.”
29 (A chydnabod cyfiawnder Duw a wnaeth yr holl bobl a glywodd, a'r casglwyr trethi hefyd, oherwydd yr oeddent wedi derbyn bedydd Ioan;
30 ond troi heibio fwriad Duw ar eu cyfer a wnaeth y Phariseaid ac athrawon y Gyfraith, oherwydd yr oeddent hwy wedi gwrthod cael eu bedyddio ganddo.)
31 “Â phwy gan hynny y cymharaf bobl y genhedlaeth hon? I bwy y maent yn debyg?
32 Y maent yn debyg i'r plant sy'n eistedd yn y farchnad ac yn galw ar ei gilydd fel hyn:“ ‘Canasom ffliwt i chwi, ac ni ddawnsiasoch;canasom alarnad, ac nid wylasoch.’
33 “Oherwydd y mae Ioan Fedyddiwr wedi dod, un nad yw'n bwyta bara nac yn yfed gwin, ac yr ydych yn dweud, ‘Y mae cythraul ynddo.’