29 (A chydnabod cyfiawnder Duw a wnaeth yr holl bobl a glywodd, a'r casglwyr trethi hefyd, oherwydd yr oeddent wedi derbyn bedydd Ioan;
30 ond troi heibio fwriad Duw ar eu cyfer a wnaeth y Phariseaid ac athrawon y Gyfraith, oherwydd yr oeddent hwy wedi gwrthod cael eu bedyddio ganddo.)
31 “Â phwy gan hynny y cymharaf bobl y genhedlaeth hon? I bwy y maent yn debyg?
32 Y maent yn debyg i'r plant sy'n eistedd yn y farchnad ac yn galw ar ei gilydd fel hyn:“ ‘Canasom ffliwt i chwi, ac ni ddawnsiasoch;canasom alarnad, ac nid wylasoch.’
33 “Oherwydd y mae Ioan Fedyddiwr wedi dod, un nad yw'n bwyta bara nac yn yfed gwin, ac yr ydych yn dweud, ‘Y mae cythraul ynddo.’
34 Y mae Mab y Dyn wedi dod, un sy'n bwyta ac yn yfed, ac yr ydych yn dweud, ‘Dyma feddwyn glwth, cyfaill i gasglwyr trethi a phechaduriaid.’
35 Ac eto profir gan bawb o'i phlant fod doethineb Duw yn gywir.”