37 A dyma wraig o'r dref oedd yn bechadures yn dod i wybod ei fod wrth bryd bwyd yn nhŷ'r Pharisead. Daeth â ffiol alabastr o ennaint,
38 a sefyll y tu ôl iddo wrth ei draed gan wylo. Yna dechreuodd wlychu ei draed â'i dagrau a'u sychu â gwallt ei phen; ac yr oedd yn cusanu ei draed ac yn eu hiro â'r ennaint.
39 Pan welodd hyn dywedodd y Pharisead oedd wedi ei wahodd wrtho'i hun, “Pe bai hwn yn broffwyd, byddai'n gwybod pwy yw'r wraig sy'n cyffwrdd ag ef, a sut un yw hi. Pechadures yw hi.”
40 Atebodd Iesu ef, “Simon, y mae gennyf rywbeth i'w ddweud wrthyt.” Meddai yntau, “Dywed, Athro.”
41 “Yr oedd gan fenthyciwr arian ddau ddyledwr,” meddai Iesu. “Pum cant o ddarnau arian oedd dyled un, a hanner cant oedd ar y llall.
42 Gan nad oeddent yn gallu talu'n ôl, diddymodd y benthyciwr eu dyled i'r ddau. P'run ohonynt, gan hynny, fydd yn ei garu fwyaf?”
43 Atebodd Simon, “Fe dybiwn i mai'r un y diddymwyd y ddyled fwyaf iddo.” “Bernaist yn gywir,” meddai ef wrtho.