43 Atebodd Simon, “Fe dybiwn i mai'r un y diddymwyd y ddyled fwyaf iddo.” “Bernaist yn gywir,” meddai ef wrtho.
44 A chan droi at y wraig, meddai wrth Simon, “A weli di'r wraig hon? Deuthum i mewn i'th dŷ, ac ni roddaist ddŵr imi at fy nhraed; ond hon, gwlychodd hi fy nhraed â'i dagrau a'u sychu â'i gwallt.
45 Ni roddaist gusan imi; ond nid yw hon wedi peidio â chusanu fy nhraed byth er pan ddeuthum i mewn.
46 Nid iraist fy mhen ag olew; ond irodd hon fy nhraed ag ennaint.
47 Am hynny rwy'n dweud wrthyt, y mae ei phechodau, er cynifer ydynt, wedi eu maddau; oherwydd y mae ei chariad yn fawr. Os mai ychydig a faddeuwyd i rywun, ychydig yw ei gariad.”
48 Ac wrth y wraig meddai, “Y mae dy bechodau wedi eu maddau.”
49 Yna dechreuodd y gwesteion eraill ddweud wrthynt eu hunain, “Pwy yw hwn sydd hyd yn oed yn maddau pechodau?”