47 Am hynny rwy'n dweud wrthyt, y mae ei phechodau, er cynifer ydynt, wedi eu maddau; oherwydd y mae ei chariad yn fawr. Os mai ychydig a faddeuwyd i rywun, ychydig yw ei gariad.”
48 Ac wrth y wraig meddai, “Y mae dy bechodau wedi eu maddau.”
49 Yna dechreuodd y gwesteion eraill ddweud wrthynt eu hunain, “Pwy yw hwn sydd hyd yn oed yn maddau pechodau?”
50 Ac meddai ef wrth y wraig, “Y mae dy ffydd wedi dy achub di; dos mewn tangnefedd.”