9 Pan glywodd Iesu hyn fe ryfeddodd at y dyn, a chan droi at y dyrfa oedd yn ei ddilyn meddai, “Rwy'n dweud wrthych, ni chefais hyd yn oed yn Israel ffydd mor fawr.”
10 Ac wedi i'r rhai a anfonwyd ddychwelyd i'r tŷ, cawsant y gwas yn holliach.
11 Yn fuan wedyn aeth Iesu i dref a elwir Nain. Gydag ef ar y daith yr oedd ei ddisgyblion a thyrfa fawr.
12 Pan gyrhaeddodd yn agos at borth y dref, dyma gynhebrwng yn dod allan; unig fab ei fam oedd y marw, a hithau'n wraig weddw. Yr oedd tyrfa niferus o'r dref gyda hi.
13 Pan welodd yr Arglwydd hi, tosturiodd wrthi a dweud, “Paid ag wylo.”
14 Yna aeth ymlaen a chyffwrdd â'r elor. Safodd y cludwyr, ac meddai ef, “Fy machgen, rwy'n dweud wrthyt, cod.”
15 Cododd y marw ar ei eistedd a dechrau siarad, a rhoes Iesu ef i'w fam.