1 Wedi hynny bu ef yn teithio trwy dref a phentref gan bregethu a chyhoeddi'r newydd da am deyrnas Dduw. Yr oedd y Deuddeg gydag ef,
2 ynghyd â rhai gwragedd oedd wedi eu hiacháu oddi wrth ysbrydion drwg ac afiechydon: Mair a elwid Magdalen, yr un yr oedd saith gythraul wedi dod allan ohoni;
3 Joanna gwraig Chwsa, goruchwyliwr Herod; Swsanna, a llawer eraill; yr oedd y rhain yn gweini arnynt o'u hadnoddau eu hunain.
4 Yr oedd tyrfa fawr yn ymgynnull, a phobl o bob tref yn dod ato. Dywedodd ef ar ddameg:
5 “Aeth heuwr allan i hau ei had. Wrth iddo hau, syrthiodd peth had ar hyd y llwybr; sathrwyd arno, a bwytaodd adar yr awyr ef.
6 Syrthiodd peth arall ar y graig; tyfodd, ond gwywodd am nad oedd iddo wlybaniaeth.
7 Syrthiodd peth arall i ganol y drain; tyfodd y drain gydag ef a'i dagu.