17 Oherwydd nid oes dim yn guddiedig na ddaw'n amlwg, na dim dan gêl na cheir ei wybod ac na ddaw i'r amlwg.
18 Ystyriwch gan hynny sut yr ydych yn gwrando, oherwydd i'r sawl y mae ganddo y rhoir, ac oddi ar y sawl nad oes ganddo y cymerir hyd yn oed hynny y mae ef yn tybio ei fod ganddo.”
19 Daeth ei fam a'i frodyr i edrych amdano, ond ni allent gyrraedd ato o achos y dyrfa.
20 Hysbyswyd ef, “Y mae dy fam a'th frodyr yn sefyll y tu allan ac yn dymuno dy weld.”
21 Atebodd yntau hwy, “Fy mam a'm brodyr i yw'r rhain sy'n gwrando ar air Duw ac yn ei weithredu.”
22 Un diwrnod, aeth ef i mewn i gwch, a'i ddisgyblion hefyd, ac meddai wrthynt, “Awn drosodd i ochr draw'r llyn,” a hwyliasant ymaith.
23 Tra oeddent ar y dŵr, aeth Iesu i gysgu. A disgynnodd tymestl o wynt ar y llyn; yr oedd y cwch yn llenwi, a hwythau mewn perygl.