23 Tra oeddent ar y dŵr, aeth Iesu i gysgu. A disgynnodd tymestl o wynt ar y llyn; yr oedd y cwch yn llenwi, a hwythau mewn perygl.
24 Aethant ato a'i ddeffro, a dweud, “Meistr, meistr, mae hi ar ben arnom!” Deffrôdd ef, a cheryddodd y gwynt a'r dyfroedd tymhestlog; darfu'r dymestl a bu tawelwch.
25 Yna meddai ef wrthynt, “Ble mae eich ffydd?” Daeth ofn a syndod arnynt, ac meddent wrth ei gilydd, “Pwy ynteu yw hwn? Y mae'n gorchymyn hyd yn oed y gwyntoedd a'r dyfroedd, a hwythau'n ufuddhau iddo.”
26 Daethant i'r lan i wlad y Geraseniaid, sydd gyferbyn â Galilea.
27 Pan laniodd ef, daeth i'w gyfarfod ddyn o'r dref â chythreuliaid ynddo. Ers amser maith nid oedd wedi gwisgo dilledyn, ac nid mewn tŷ yr oedd yn byw ond ymhlith y beddau.
28 Pan welodd ef Iesu, rhoes floedd a syrthio o'i flaen, gan weiddi â llais uchel, “Beth sydd a fynni di â mi, Iesu Fab y Duw Goruchaf? Yr wyf yn erfyn arnat, paid â'm poenydio.”
29 Oherwydd yr oedd ef wedi gorchymyn i'r ysbryd aflan fynd allan o'r dyn. Aml i dro yr oedd yr ysbryd wedi cydio ynddo, ac er ei rwymo â chadwynau a llyffetheiriau a'i warchod, byddai'n dryllio'r rhwymau, a'r cythraul yn ei yrru i'r unigeddau.