26 Daethant i'r lan i wlad y Geraseniaid, sydd gyferbyn â Galilea.
27 Pan laniodd ef, daeth i'w gyfarfod ddyn o'r dref â chythreuliaid ynddo. Ers amser maith nid oedd wedi gwisgo dilledyn, ac nid mewn tŷ yr oedd yn byw ond ymhlith y beddau.
28 Pan welodd ef Iesu, rhoes floedd a syrthio o'i flaen, gan weiddi â llais uchel, “Beth sydd a fynni di â mi, Iesu Fab y Duw Goruchaf? Yr wyf yn erfyn arnat, paid â'm poenydio.”
29 Oherwydd yr oedd ef wedi gorchymyn i'r ysbryd aflan fynd allan o'r dyn. Aml i dro yr oedd yr ysbryd wedi cydio ynddo, ac er ei rwymo â chadwynau a llyffetheiriau a'i warchod, byddai'n dryllio'r rhwymau, a'r cythraul yn ei yrru i'r unigeddau.
30 Yna gofynnodd Iesu iddo, “Beth yw dy enw?” “Lleng,” meddai yntau, oherwydd yr oedd llawer o gythreuliaid wedi mynd i mewn iddo.
31 Dechreusant ymbil ar Iesu i beidio â gorchymyn iddynt fynd ymaith i'r dyfnder.
32 Yr oedd yno genfaint fawr o foch yn pori ar y mynydd. Ymbiliodd y cythreuliaid arno i ganiatáu iddynt fynd i mewn i'r moch; ac fe ganiataodd iddynt.