4 Yr oedd tyrfa fawr yn ymgynnull, a phobl o bob tref yn dod ato. Dywedodd ef ar ddameg:
5 “Aeth heuwr allan i hau ei had. Wrth iddo hau, syrthiodd peth had ar hyd y llwybr; sathrwyd arno, a bwytaodd adar yr awyr ef.
6 Syrthiodd peth arall ar y graig; tyfodd, ond gwywodd am nad oedd iddo wlybaniaeth.
7 Syrthiodd peth arall i ganol y drain; tyfodd y drain gydag ef a'i dagu.
8 A syrthiodd peth arall ar dir da; tyfodd, a chnydiodd hyd ganwaith cymaint.” Wrth ddweud hyn fe waeddodd, “Y sawl sydd â chlustiau ganddo i wrando, gwrandawed.”
9 Gofynnodd ei ddisgyblion iddo beth oedd ystyr y ddameg hon.
10 Meddai ef, “I chwi y mae gwybod cyfrinachau teyrnas Dduw wedi ei roi, ond i bawb arall y maent ar ddamhegion, fel“ ‘er edrych, na welant,ac er clywed, na ddeallant’.