50 Ond clywodd Iesu, ac meddai wrtho, “Paid ag ofni; dim ond credu, ac fe'i hachubir.”
51 Pan gyrhaeddodd y tŷ, ni adawodd i neb fynd i mewn gydag ef ond Pedr ac Ioan ac Iago, ynghyd â thad y ferch a'i mam.
52 Yr oedd pawb yn wylo ac yn galaru drosti. Ond meddai ef, “Peidiwch ag wylo; nid yw hi wedi marw, cysgu y mae.”
53 Dechreusant chwerthin am ei ben, am eu bod yn sicr ei bod wedi marw.
54 Gafaelodd ef yn ei llaw a dweud yn uchel, “Fy ngeneth, cod.”
55 Yna dychwelodd ei hysbryd, a chododd ar unwaith. Gorchmynnodd ef roi iddi rywbeth i'w fwyta.
56 Syfrdanwyd ei rhieni, ond rhybuddiodd ef hwy i beidio â sôn gair wrth neb am yr hyn oedd wedi digwydd.