31 Peidiwch ag ofni felly; yr ydych chwi'n werth mwy na llawer o adar y to.
32 “Pwy bynnag fydd yn fy arddel i gerbron eraill, byddaf finnau hefyd yn eu harddel hwy gerbron fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd.
33 Ond pwy bynnag fydd yn fy ngwadu i gerbron eraill, byddaf finnau hefyd yn eu gwadu hwy gerbron fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd.
34 “Peidiwch â meddwl mai i ddwyn heddwch i'r ddaear y deuthum; nid i ddwyn heddwch y deuthum ond cleddyf.
35 Oherwydd deuthum i rannu“ ‘dyn yn erbyn ei dad,a merch yn erbyn ei mam,a merch-yng-nghyfraith yn erbyn ei mam-yng-nghyfraith;
36 a gelynion rhywun fydd ei deulu ei hun’.
37 “Nid yw'r sawl sy'n caru tad neu fam yn fwy na myfi yn deilwng ohonof fi; ac nid yw'r sawl sy'n caru mab neu ferch yn fwy na myfi yn deilwng ohonof fi.