1 Wedi i Iesu gael ei eni ym Methlehem Jwdea yn nyddiau'r Brenin Herod, daeth seryddion o'r dwyrain i Jerwsalem
2 a holi, “Ble mae'r hwn a anwyd yn frenin yr Iddewon? Oherwydd gwelsom ei seren ef ar ei chyfodiad, a daethom i'w addoli.”
3 A phan glywodd y Brenin Herod hyn, cythruddwyd ef, a Jerwsalem i gyd gydag ef.
4 Galwodd ynghyd yr holl brif offeiriaid ac ysgrifenyddion y bobl, a holi ganddynt ble yr oedd y Meseia i gael ei eni.
5 Eu hateb oedd, “Ym Methlehem Jwdea, oherwydd felly yr ysgrifennwyd gan y proffwyd:
6 “ ‘A thithau Bethlehem yng ngwlad Jwda,nid y lleiaf wyt ti o lawer ymysg tywysogion Jwda,canys ohonot ti y daw allan arweinydda fydd yn fugail ar fy mhobl Israel.’ ”
7 Yna galwodd Herod y seryddion yn ddirgel ato, a holodd hwy'n fanwl pa bryd yr oedd y seren wedi ymddangos.
8 Anfonodd hwy i Fethlehem gan ddweud, “Ewch, a chwiliwch yn fanwl am y plentyn, a phan fyddwch wedi dod o hyd iddo, rhowch wybod i mi er mwyn i minnau hefyd fynd a'i addoli.”
9 Wedi gwrando ar y brenin aethant ar eu taith, a dyma'r seren a welsent ar ei chyfodiad yn mynd o'u blaen hyd nes iddi ddod ac aros uwchlaw'r man lle'r oedd y plentyn.
10 A phan welsant y seren, yr oeddent yn llawen dros ben.
11 Daethant i'r tŷ a gweld y plentyn gyda Mair ei fam; syrthiasant i lawr a'i addoli, ac wedi agor eu trysorau offrymasant iddo anrhegion, aur a thus a myrr.
12 Yna, ar ôl cael eu rhybuddio mewn breuddwyd i beidio â dychwelyd at Herod, aethant yn ôl i'w gwlad ar hyd ffordd arall.
13 Wedi iddynt ymadael, dyma angel yr Arglwydd yn ymddangos i Joseff mewn breuddwyd, ac yn dweud, “Cod, a chymer y plentyn a'i fam gyda thi, a ffo i'r Aifft, ac aros yno hyd nes y dywedaf wrthyt, oherwydd y mae Herod yn mynd i chwilio am y plentyn er mwyn ei ladd.”
14 Yna cododd Joseff, a chymerodd y plentyn a'i fam gydag ef liw nos, ac ymadael i'r Aifft.
15 Arhosodd yno hyd farwolaeth Herod, fel y cyflawnid y gair a lefarwyd gan yr Arglwydd trwy'r proffwyd: “O'r Aifft y gelwais fy mab.”
16 Yna, pan ddeallodd Herod iddo gael ei dwyllo gan y seryddion, aeth yn gynddeiriog, a rhoddodd orchymyn i ladd pob bachgen ym Methlehem a'r holl gyffiniau oedd yn ddwyflwydd oed neu lai, gan gyfrif o'r amser yr holodd ef y seryddion.
17 Felly y cyflawnwyd y gair a lefarwyd trwy Jeremeia'r proffwyd:
18 “Clywyd llef yn Rama,wylofain a galaru dwys;Rachel yn wylo am ei phlant,ac ni fynnai ei chysuro, am nad oeddent mwy.”
19 Ar ôl i Herod farw, dyma angel yr Arglwydd yn ymddangos mewn breuddwyd i Joseff yn yr Aifft,
20 ac yn dweud, “Cod, a chymer y plentyn a'i fam gyda thi, a dos i wlad Israel, oherwydd bu farw y rhai oedd yn ceisio bywyd y plentyn.”
21 Yna cododd Joseff, a chymerodd y plentyn a'i fam gydag ef, a mynd i wlad Israel.
22 Ond wedi clywed bod Archelaus yn teyrnasu dros Jwdea yn lle ei dad Herod, daeth ofn ar Joseff fynd yno. Cafodd ei rybuddio mewn breuddwyd, ac ymadawodd i barthau Galilea,
23 ac ymsefydlodd mewn tref a elwid Nasareth, fel y cyflawnid y gair a lefarwyd trwy'r proffwydi: “Gelwir ef yn Nasaread.”