1 “Y pryd hwnnw bydd teyrnas nefoedd yn debyg i ddeg o enethod a gymerodd eu lampau a mynd allan i gyfarfod â'r priodfab.
2 Yr oedd pump ohonynt yn ffôl a phump yn gall.
3 Cymerodd y rhai ffôl eu lampau ond heb gymryd olew gyda hwy,
4 ond cymerodd y rhai call, gyda'u lampau, olew mewn llestri.
5 Gan fod y priodfab yn hwyr yn dod aethant i gyd i hepian a chysgu.
6 Ac ar ganol nos daeth gwaedd: ‘Dyma'r priodfab, ewch allan i'w gyfarfod.’
7 Yna cododd y genethod hynny i gyd a pharatoi eu lampau.
8 Dywedodd y rhai ffôl wrth y rhai call, ‘Rhowch i ni beth o'ch olew, oherwydd y mae'n lampau ni yn diffodd.’
9 Atebodd y rhai call, ‘Na yn wir, ni fydd digon i ni ac i chwithau. Gwell i chwi fynd at y gwerthwyr a phrynu peth i chwi eich hunain.’
10 A thra oeddent yn mynd i brynu'r olew, cyrhaeddodd y priodfab, ac aeth y rhai oedd yn barod i mewn gydag ef i'r wledd briodas, a chlowyd y drws.
11 Yn ddiweddarach dyma'r genethod eraill yn dod ac yn dweud, ‘Syr, syr, agor y drws i ni.’
12 Atebodd yntau, ‘Yn wir, rwy'n dweud wrthych, nid wyf yn eich adnabod.’
13 Byddwch wyliadwrus gan hynny, oherwydd ni wyddoch na'r dydd na'r awr.
14 “Y mae fel dyn a oedd yn mynd oddi cartref ac a alwodd ei weision a rhoi ei eiddo yn eu gofal.
15 I un fe roddodd bum cod o arian, i un arall ddwy, i un arall un, i bob un yn ôl ei allu, ac fe aeth oddi cartref.
16 Ar unwaith aeth yr un a dderbyniodd bum cod a masnachu â hwy, ac fe enillodd atynt bump arall.
17 Felly hefyd enillodd yr un a gafodd ddwy god ddwy arall atynt.
18 Ond y sawl a dderbyniodd un god, aeth ef ymaith a chloddio twll yn y ddaear a chuddio arian ei feistr.
19 Ymhen cryn dipyn o amser daeth meistr y gweision hynny yn ôl ac fe adolygodd eu cyfrifon hwy.
20 Daeth yr un a dderbyniodd bum cod a chyflwyno iddo bump arall. ‘Meistr,’ meddai, ‘rhoddaist bum cod o arian yn fy ngofal; dyma bum cod arall a enillais i atynt.’
21 ‘Ardderchog, fy ngwas da a ffyddlon,’ meddai ei feistr wrtho, ‘buost yn ffyddlon wrth ofalu am ychydig, fe osodaf lawer yn dy ofal; tyrd i ymuno yn llawenydd dy feistr.’
22 Yna daeth yr un â'r ddwy god, a dywedodd, ‘Meistr, rhoddaist ddwy god o arian yn fy ngofal; dyma ddwy god arall a enillais i atynt.’
23 Meddai ei feistr wrtho, ‘Ardderchog, fy ngwas da a ffyddlon; buost yn ffyddlon wrth ofalu am ychydig, fe osodaf lawer yn dy ofal; tyrd i ymuno yn llawenydd dy feistr.’
24 Yna daeth yr un oedd wedi derbyn un god, a dywedodd, ‘Meistr, gwyddwn dy fod yn ddyn caled, yn medi lle heuodd eraill ac yn casglu lle gwasgarodd eraill.
25 Yn fy ofn euthum a chuddio dy god o arian yn y ddaear. Dyma i ti dy eiddo yn ôl.’
26 Atebodd ei feistr ef, ‘Y gwas drwg a diog, yr oeddit yn gwybod, meddi, fy mod yn medi lle heuodd eraill ac yn casglu lle gwasgarodd eraill.
27 Dylit felly fod wedi gosod fy arian yn y banc, a buasai fy eiddo wedi ennill llog erbyn i mi ddod i'w hawlio.
28 Felly cymerwch y god o arian oddi arno a rhowch hi i'r un a chanddo ddeg cod.
29 Oherwydd i bawb y mae ganddo y rhoddir, a bydd ar ben ei ddigon, ond oddi ar yr hwn nad oes ganddo fe gymerir hyd yn oed hynny sydd ganddo.
30 A bwriwch y gwas diwerth i'r tywyllwch eithaf; bydd yno wylo a rhincian dannedd.’
31 “Pan ddaw Mab y Dyn yn ei ogoniant, a'r holl angylion gydag ef, yna bydd yn eistedd ar orsedd ei ogoniant.
32 Fe gesglir yr holl genhedloedd ger ei fron, a bydd ef yn eu didoli oddi wrth ei gilydd, fel y mae bugail yn didoli'r defaid oddi wrth y geifr,
33 ac fe esyd y defaid ar ei law dde a'r geifr ar y chwith.
34 Yna fe ddywed y Brenin wrth y rhai ar y dde iddo, ‘Dewch, chwi sydd dan fendith fy Nhad, i etifeddu'r deyrnas a baratowyd ichwi er seiliad y byd.
35 Oherwydd bûm yn newynog a rhoesoch fwyd imi, bûm yn sychedig a rhoesoch ddiod imi, bûm yn ddieithr a chymerasoch fi i'ch cartref;
36 bûm yn noeth a rhoesoch ddillad amdanaf, bûm yn glaf ac ymwelsoch â mi, bûm yng ngharchar a daethoch ataf.’
37 Yna bydd y rhai cyfiawn yn ei ateb: ‘Arglwydd,’ gofynnant, ‘pryd y'th welsom di'n newynog a'th borthi, neu'n sychedig a rhoi diod iti?
38 A phryd y'th welsom di'n ddieithr a'th gymryd i'n cartref, neu'n noeth a rhoi dillad amdanat?
39 Pryd y'th welsom di'n glaf neu yng ngharchar ac ymweld â thi?’
40 A bydd y Brenin yn eu hateb, ‘Yn wir, rwy'n dweud wrthych, yn gymaint ag ichwi ei wneud i un o'r lleiaf o'r rhain, fy nghymrodyr, i mi y gwnaethoch.’
41 “Yna fe ddywed wrth y rhai ar y chwith, ‘Ewch oddi wrthyf, chwi sydd dan felltith, i'r tân tragwyddol a baratowyd i'r diafol a'i angylion.
42 Bûm yn newynog ac ni roesoch fwyd imi, bûm yn sychedig ac ni roesoch ddiod imi;
43 bûm yn ddieithr ac ni chymerasoch fi i'ch cartref, yn noeth ac ni roesoch ddillad amdanaf, yn glaf ac yng ngharchar ac nid ymwelsoch â mi.’
44 Yna atebant hwythau: ‘Arglwydd,’ gofynnant, ‘pryd y'th welsom di'n newynog neu'n sychedig neu'n ddieithr neu'n noeth neu'n glaf neu yng ngharchar heb weini arnat?’
45 A bydd ef yn eu hateb, ‘Yn wir, rwy'n dweud wrthych, yn gymaint ag ichwi beidio â'i wneud i un o'r rhai lleiaf hyn, nis gwnaethoch i minnau chwaith.’
46 Ac fe â'r rhain ymaith i gosb dragwyddol, ond y rhai cyfiawn i fywyd tragwyddol.”