Mathew 15 BCN

Traddodiad yr Hynafiaid

1 Yna daeth Phariseaid ac ysgrifenyddion o Jerwsalem at Iesu a dweud,

2 “Pam y mae dy ddisgyblion di yn troseddu yn erbyn traddodiad yr hynafiaid? Oherwydd nid ydynt yn golchi eu dwylo pan fyddant yn bwyta'u bwyd.”

3 Atebodd yntau hwy, “A pham yr ydych chwithau yn troseddu yn erbyn gorchymyn Duw er mwyn eich traddodiad?

4 Oherwydd dywedodd Duw, ‘Anrhydedda dy dad a'th fam’, a ‘Bydded farw'n gelain y sawl a felltithia ei dad neu ei fam.’

5 Ond yr ydych chwi'n dweud, ‘Os dywed rhywun wrth ei dad neu ei fam, “Offrwm i Dduw yw beth bynnag y gallasit ei dderbyn yn gymorth gennyf fi”, ni chaiff anrhydeddu ei dad.’

6 Ac yr ydych wedi dirymu gair Duw er mwyn eich traddodiad chwi.

7 Ragrithwyr, da y proffwydodd Eseia amdanoch:

8 “ ‘Y mae'r bobl hyn yn fy anrhydeddu â'u gwefusau,ond y mae eu calon ymhell oddi wrthyf;

9 yn ofer y maent yn fy addoli,gan ddysgu gorchmynion dynol fel athrawiaethau.’ ”

10 Galwodd y dyrfa ato a dywedodd wrthynt, “Gwrandewch a deallwch.

11 Nid yr hyn sy'n mynd i mewn i enau rhywun sy'n ei halogi, ond yr hyn sy'n dod allan o'i enau, dyna sy'n halogi rhywun.”

12 Yna daeth ei ddisgyblion a dweud wrtho, “A wyddost fod y Phariseaid wedi eu tramgwyddo wrth glywed dy eiriau?”

13 Atebodd yntau, “Pob planhigyn na phlannodd fy Nhad nefol, fe'i diwreiddir.

14 Gadewch iddynt; arweinwyr dall i ddeillion ydynt. Os bydd rhywun dall yn arwain rhywun dall, bydd y ddau yn syrthio i bydew.”

15 Dywedodd Pedr wrtho, “Eglura'r ddameg hon inni.”

16 Meddai Iesu, “A ydych chwithau'n dal mor ddiddeall?

17 Oni welwch fod popeth sy'n mynd i mewn i'r genau yn mynd i'r cylla ac yn cael ei yrru allan i'r geudy?

18 Ond y mae'r pethau sy'n dod allan o'r genau yn dod o'r galon, a dyna'r pethau sy'n halogi rhywun.

19 Oherwydd o'r galon y daw cynllunio drygionus, llofruddio, godinebu, puteinio, lladrata, camdystiolaethu, a chablu.

20 Dyma'r pethau sy'n halogi rhywun; ond bwyta â dwylo heb eu golchi, nid yw hynny'n halogi neb.”

Ffydd y Gananees

21 Aeth Iesu allan oddi yno ac ymadawodd i barthau Tyrus a Sidon.

22 A dyma wraig oedd yn Gananëes o'r cyffiniau hynny yn dod ymlaen gan weiddi, “Syr, trugarha wrthyf, Fab Dafydd; y mae fy merch wedi ei meddiannu gan gythraul ac yn dioddef yn enbyd.”

23 Ond nid atebodd ef un gair iddi. A daeth ei ddisgyblion ato a gofyn iddo, “Gyr hi i ffwrdd, oherwydd y mae'n gweiddi ar ein hôl.”

24 Atebodd yntau, “Ni'm hanfonwyd at neb ond at ddefaid colledig tŷ Israel.”

25 Ond daeth hithau ac ymgrymu iddo gan ddweud, “Syr, helpa fi.”

26 Atebodd Iesu, “Nid yw'n deg cymryd bara'r plant a'i daflu i'r cŵn.”

27 Dywedodd hithau, “Gwir, syr, ond y mae hyd yn oed y cŵn yn bwyta o'r briwsion sy'n syrthio oddi ar fwrdd eu meistri.”

28 Yna atebodd Iesu hi, “Wraig, mawr yw dy ffydd; boed iti fel y mynni.” Ac fe iachawyd ei merch o'r munud hwnnw.

Iacháu Llawer

29 Symudodd Iesu oddi yno ac aeth gerllaw Môr Galilea, ac i fyny'r mynydd. Eisteddodd yno,

30 a daeth tyrfaoedd mawr ato yn dwyn gyda hwy y cloff a'r dall, yr anafus a'r mud, a llawer eraill; gosodasant hwy wrth ei draed, ac iachaodd ef hwy,

31 er syndod i'r dyrfa wrth weld y mud yn llefaru, yr anafus yn holliach, y cloff yn cerdded a'r dall yn gweld; a rhoesant ogoniant i Dduw Israel.

Porthi'r Pedair Mil

32 Galwodd Iesu ei ddisgyblion ato, ac meddai, “Yr wyf yn tosturio wrth y dyrfa, oherwydd y maent wedi bod gyda mi dridiau erbyn hyn, ac nid oes ganddynt ddim i'w fwyta. Ac ni fynnaf eu hanfon ymaith ar eu cythlwng, rhag iddynt lewygu ar y ffordd.”

33 Dywedodd y disgyblion wrtho, “O ble, mewn lle anial, y cawn ddigon o fara i fwydo tyrfa mor fawr?”

34 Gofynnodd Iesu iddynt, “Pa sawl torth sydd gennych?” “Saith,” meddent hwythau, “ac ychydig bysgod bychain.”

35 Gorchmynnodd i'r dyrfa eistedd ar y ddaear.

36 Yna cymerodd y saith torth a'r pysgod, ac wedi diolch fe'u torrodd a'u rhoi i'r disgyblion, a'r disgyblion i'r tyrfaoedd.

37 Bwytasant oll a chael digon, a chodasant lond saith cawell o'r tameidiau oedd dros ben.

38 Yr oedd y rhai oedd yn bwyta yn bedair mil o wŷr, heblaw gwragedd a phlant.

39 Wedi gollwng y tyrfaoedd aeth Iesu i mewn i'r cwch a daeth i gyffiniau Magadan.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28