1 Pan orffennodd Iesu ddysgu ei ddeuddeg disgybl, symudodd oddi yno er mwyn dysgu a phregethu yn eu trefi hwy.
2 Pan glywodd Ioan yn y carchar am weithredoedd Crist, anfonodd trwy ei ddisgyblion
3 a gofyn iddo, “Ai ti yw'r hwn sydd i ddod, ai am rywun arall yr ydym i ddisgwyl?”
4 Ac atebodd Iesu hwy, “Ewch a dywedwch wrth Ioan yr hyn yr ydych yn ei glywed ac yn ei weld.
5 Y mae'r deillion yn cael eu golwg yn ôl, y cloffion yn cerdded, y gwahangleifion yn cael eu glanhau a'r byddariaid yn clywed, y meirw yn codi, y tlodion yn cael clywed y newydd da.
6 Gwyn ei fyd y sawl na fydd yn cwympo o'm hachos i.”
7 Wrth i ddisgyblion Ioan fynd ymaith, dechreuodd Iesu sôn am Ioan wrth y tyrfaoedd. “Beth yr aethoch allan i'r anialwch i edrych arno? Ai brwynen yn siglo yn y gwynt?
8 Beth yr aethoch allan i'w weld? Ai un wedi ei wisgo mewn dillad esmwyth? Yn nhai brenhinoedd y mae'r rhai sy'n gwisgo dillad esmwyth.
9 Beth yr aethoch allan i'w weld? Ai proffwyd? Ie, meddaf wrthych, a mwy na phroffwyd.
10 Dyma'r un y mae'n ysgrifenedig amdano:“ ‘Wele fi'n anfon fy nghennad o'th flaen,i baratoi'r ffordd ar dy gyfer.’
11 “Yn wir, rwy'n dweud wrthych, ni chododd ymhlith meibion gwragedd neb mwy na Ioan Fedyddiwr; ac eto y mae'r lleiaf yn nheyrnas nefoedd yn fwy nag ef.
12 O ddyddiau Ioan Fedyddiwr hyd yn awr y mae teyrnas nefoedd yn cael ei threisio, a threiswyr sy'n ei chipio hi.
13 Hyd at Ioan y proffwydodd yr holl broffwydi a'r Gyfraith;
14 ac os mynnwch dderbyn hynny, ef yw Elias sydd ar ddod.
15 Y sawl sydd â chlustiau ganddo, gwrandawed.
16 “Â phwy y cymharaf y genhedlaeth hon? Y mae'n debyg i blant yn eistedd yn y marchnadoedd ac yn galw ar ei gilydd:
17 “ ‘Canasom ffliwt i chwi, ac ni ddawnsiasoch;canasom alarnad, ac nid wylasoch.’
18 “Oherwydd daeth Ioan, un nad yw'n bwyta nac yn yfed, ac y maent yn dweud, ‘Y mae cythraul ynddo.’
19 Daeth Mab y Dyn, un sy'n bwyta ac yn yfed, ac y maent yn dweud, ‘Dyma feddwyn glwth, cyfaill i gasglwyr trethi a phechaduriaid.’ Ac eto profir gan ei gweithredoedd fod doethineb Duw yn iawn.”
20 Yna dechreuodd geryddu'r trefi lle y gwnaed y rhan fwyaf o'i wyrthiau, am nad oeddent wedi edifarhau.
21 “Gwae di, Chorasin! Gwae di, Bethsaida! Oherwydd petai'r gwyrthiau a wnaed ynoch chwi wedi eu gwneud yn Tyrus a Sidon, buasent wedi edifarhau erstalwm mewn sachliain a lludw.
22 Ond rwy'n dweud wrthych, caiff Tyrus a Sidon lai i'w ddioddef yn Nydd y Farn na chwi.
23 A thithau, Capernaum,“ ‘A ddyrchefir di hyd nef?Byddi'n disgyn hyd Hades.’“Oherwydd petai'r gwyrthiau a wnaed ynot ti wedi eu gwneud yn Sodom, buasai'n sefyll hyd heddiw.
24 Ond rwy'n dweud wrthych y caiff tir Sodom lai i'w ddioddef yn Nydd y Farn na thi.”
25 Yr amser hwnnw dywedodd Iesu, “Yr wyf yn dy foliannu di, O Dad, Arglwydd nef a daear, am iti guddio'r pethau hyn rhag y doethion a'r deallusion, a'u datguddio i rai bychain;
26 ie, O Dad, oherwydd felly y rhyngodd dy fodd di.
27 Traddodwyd i mi bob peth gan fy Nhad. Nid oes neb yn adnabod y Mab, ond y Tad, ac nid oes neb yn adnabod y Tad, ond y Mab a'r rhai hynny y mae'r Mab yn dewis ei ddatguddio iddynt.
28 Dewch ataf fi, bawb sy'n flinedig ac yn llwythog, ac fe roddaf fi orffwystra i chwi.
29 Cymerwch fy iau arnoch a dysgwch gennyf, oherwydd addfwyn ydwyf a gostyngedig o galon, ac fe gewch orffwystra i'ch eneidiau.
30 Y mae fy iau i yn hawdd ei dwyn, a'm baich i yn ysgafn.”